Croeso i wefan Clwb Cinio Cyfle
Mae ymchwil ac ystadegau yn dangos fod ein siawns o gyfarfod darpar bartner yn cynyddu wrth i ni ymestyn ein cylch o ffrindiau neu’n rhwydwaith. Felly, os ydych wedi blino ar safleoedd caru, dyma gyfle i chi gyfarfod pobl mewn awyrgylch hamddenol, cyfeillgar a llawer mwy naturiol gan ehangu eich cylch cymdeithasol. Wedi’i ffurfio yn Ionawr 2008, mae Clwb Cinio Cyfle yn fenter newydd sy’n llwyddiant mawr gyda’n haelodau. Rhaid pwysleisio nad clwb caru yw Clwb Cinio Cyfle ond clwb cymdeithasol a chyfle gwych am nosweithiau a digwyddiadau hwyliog a rheolaidd.
Beth yw CCC?
Mae CCC yn ffordd newydd yng Ngwynedd i wneud ffrindiau, ymestyn eich cylch cymdeithasol neu rwydweithio. Y bwriad yw dod â chriw o bobl sengl gyda’r un diddordebau ac ystod oedran at ei gilydd gyda'r nos dros ginio. Mae CCC felly yn ffordd berffaith o gyfarfod pobl mewn awyrgylch di-bwysau, hamddenol a chyfeillgar.
Felly os ydych yn dod o fewn y categorïau isod:
- Sengl – dros 25
- Eisiau ymestyn eich cylch cymdeithasol
- Yn mwynhau mynd allan i fwyta
- Yn byw bywyd proffesiynol prysur heb lawer o amser na chyfle i wneud cysylltiadau newydd
...... byddwch yn siwr o fwynhau beth sydd gan CCC i'w gynnig.
O le daeth y syniad?
Ganwyd y syniad yn wreiddiol rai blynyddoedd yn ôl wrth sgwrsio â ffrindiau. Cafodd ei adfywio ym Mehefin 2006 ar ôl sgwrs â pherson sengl, deniadol, sy’n gweithio mewn swydd broffesiynol i gorff cyhoeddus mawr. Syndod oedd clywed y geiriau, “mae mor anodd cael CYFLE i gyfarfod pobl”. Y geiriau hyn, ynghyd â'r angen amlwg i ddod â phobl at ei gilydd, roddodd yr hwb i weithredu ar y syniad. Er bod siawns y bydd perthnasau yn cael eu ffurfio drwy’r clwb rhaid pwysleisio nad ‘dating agency’ na chlwb cyflwyno yw Clwb Cinio Cyfle.
Sut mae’n gweithio?
Yn gyntaf bydd rhaid cofrestru a bydd ffi cofrestru yn daladwy unwaith yn unig. Bydd aelodaeth yn cael ei adnewyddu unai bob chwe mis neu yn flynyddol gyda thâl aelodaeth bob chwe mis neu yn flynyddol. Bydd ciniawau a digwyddiadau eraill yn cael eu trefnu mewn gwahanol leoliadau a bydd unigolion yn gyfrifol am bris y ciniawau neu’r digwyddiadau hynny.
Am fwy o fanylion neu ffurflen gais, cysylltwch a ni.
|