Yr ateb cyffredinol yw na chewch. Dan amgylchiadau arbennig yn unig y byddwn yn rhoi ad-daliad. Ni chewch ad-daliad os dywedwch nad ydych yn ei hoffi ar ôl bod am un cinio yn unig. Ar y cyfan, bydd pobl yn mwynhau eu hunain yng nghwmni ffrindiau ac, ar ôl un cinio yn unig, mae’n bosib na fydd cyfeillgarwch wedi cael cyfle i ddatblygu. Mae’n bwysig i chi beidio â barnu ar sail eich cinio cyntaf. Wyddoch chi ddim pwy allai ymuno yfory - gallai’r person hwnnw, ymhen amser, fod y person pwysicaf yn eich bywyd chi. Rhaid i chi roi cyfle i bawb - gan gynnwys chi eich hun.